Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Tai, Adfywio a Threftadaeth

 

Portffolio

 

1.    Yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros bortffolio sy’n dod â thai, treftadaeth ac adfywio ynghyd, rwyf yn cael cyfle i ddatblygu strategaethau newydd integredig a chynhwysol a fydd yn chwarae rhan ganolog yn y camau ehangach y mae angen eu cymryd i sicrhau economi fwy ffyniannus, gwell lleoedd i bobl fyw ynddynt, a dyfodol tecach.

 

2.    Mae'n amlwg bod gan y tri maes polisi hyn gyfraniad sylweddol i'w wneud i'r ddwy thema allweddol - gwella cynaliadwyedd a gwella lles - sy'n rhan gwbl greiddiol o'n Rhaglen Lywodraethu.

 

Y Rhaglen Lywodraethu

 

3.    Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu'r camau penodol yr ydym yn eu cymryd. Mae hefyd yn nodi'n glir sut y byddwn yn mynd ati i bwyso a mesur a ydym ar y trywydd iawn, a sut y byddwn yn asesu'r cynnydd a wnawn wrth fynd i'r afael â'r heriau hirdymor sy'n wynebu Cymru.

 

4.    Mae gennyf atebolrwydd penodol am sicrhau ein bod ar y trywydd iawn mewn nifer o'r meysydd sydd yn y rhaglen honno  - yn fwyaf arbennig y penodau sy'n ymdrin â Chartrefi Cymru(6), Mynd i’r Afael â Thlodi (9) a Diwylliant a Threftadaeth Cymru (12).

 

5.    Fodd bynnag, mae'r rhaglen hon yn un sydd am weld cydweithrediad ar draws adrannau'r Llywodraeth. Rydym am weld pawb ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn cydnabod yr agenda hon ac yn  mynd ati mewn partneriaeth â ni i'w symud yn ei blaen.

 

Blaenoriaethau

 

6.    Er nad oes modd ymdrin â'r holl agweddau ar fy mhortffolio yn y papur hwn, rwyf wedi mynd ati isod i fanylu ychydig mwy ar rai o'r blaenoriaethau sydd gennyf ac ar rai o'r gweithgareddau a'r sefydliadau y mae fy Adran yn eu noddi a'u hariannu - gan sicrhau bod cynaliadwyedd yn ganolog i'r agenda a chan ddiffinio'r llwybr datblygu ar gyfer y tymor hir.

 

Tai

 

7.    Rwyf wedi gwneud ymrwymiad clir a chyhoeddus i roi mwy o flaenoriaeth i faterion tai yn y blynyddoedd sydd i ddod.

 

8.    Mae tai yn rhan annatod o’n hymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb. Nid dim ond darparu cartrefi newydd a gwella cartrefi sy’n bodoli eisoes sydd ar yr agenda hollbwysig hon. Mae helpu pobl i fyw bywydau annibynnol cyhyd ag y bo modd yn rhan ohoni hefyd, yn ogystal â lleihau’r galw am wasanaethau’r GIG ac am wasanaethau gofal cymdeithasol.

 

9.    Mae buddsoddi mewn tai yn cyfrannu at yr economi hefyd, yn genedlaethol ac yn lleol, mae’n cefnogi busnesau bach a mawr yn y sector adeiladu, ac mae’n creu swyddi a chyfleoedd hyfforddiant.

 

10. Mae’n pwerau newydd yn rhoi cyfle i ni wneud hyd yn oed mwy i newid pethau er gwell.

 

11. Ym mis Medi (2011), cyhoeddais ‘Cwrdd â'r Her Tai: Creu consensws ar gyfer gweithredu’ gan wahodd pobl i fynegi barn am faterion yn ymwneud â thai er mwyn ein helpu i baratoi Bil Tai newydd. Roeddwn yn falch o weld bod dros 80 o ymatebion wedi dod i law, ac mae'r gwaith o'u dadansoddi yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

http://wales.gov.uk/consultations/housingcommunity/housingchallenge/?skip=1&lang=cy

 

12. Byddaf yn parhau â'r gwaith hwn drwy gyhoeddi Papur Gwyn yn y gwanwyn. Bydd y papur hwnnw'n amlinellu'r cynlluniau a'r blaenoriaethau sydd gennyf am weddill y tymor, gan adlewyrchu'r ymrwymiadau a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu, ond bydd hefyd yn ystyried yr ymatebion i fy mhapur i.

 

13. Bydd angen atebion deddfwriaethol er mwyn gwireddu rhai o'r ymrwymiadau hyn, a bydd y Bil Tai yn fodd i roi'r atebion hynny ar waith: rwyf wedi dweud eisoes mai'r prif flaenoriaethau yw mynd i'r afael â digartrefedd a gwella safonau yn y sector rhentu preifat.  

 

14. Fod bynnag, rhan yn unig yw hyn o'r ymrwymiad yr ydym wedi'i wneud. Byddaf yn gweithredu i wella'r ffordd y mae'r system dai yn gweithio yn gyffredinol - gan amrywio o'r Gronfa Troi Tai'n Gartrefi (menter gwerth £5 miliwn i fynd i'r afael â chartrefi gwag) i gefnogi amryfal gamau y bwriedir eu cymryd i liniaru ac i fonitro effeithiau'r cynigion sydd gan Lywodraeth y DU i Ddiwygio Lles - cynigion sy'n cael effaith sylweddol yng Nghymru eisoes.

 

Adolygiad o'r Polisi Adfywio

 

15. Cyhoeddais ar 21 Chwefror y byddai adolygiad yn cael ei gynnal o bolisi adfywio yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn ystyried ein polisïau presennol, yn arbennig felly y polisi o greu Ardaloedd Adfywio, yn ogystal ag ystyried i ba gyfeiriad y dylai gwaith adfywio fynd yn y dyfodol. Yn ogystal â pharhau gyda'r gwaith o wireddu'r ymrwymiadau  a wnaed hyd yma, mae angen i ni feddwl yn ofalus am y dyfodol. 

 

16.Mae adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes am Adfywio Canol Trefi wedi dangos yn gwbl glir i mi bod y ffordd yr ydym yn byw, a sut a lle'r ydym yn gwneud ein siopa, wedi newid. Bydd yr Adolygiad hefyd yn llywio'r ffordd yr ydym yn mynd ati i wireddu'r ymrwymiadau a wnaed yn ein maniffesto mewn perthynas â chanol trefi a threfi glan môr.

 

17.Fel Cabinet, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gweithgarwch ym maes adfywio yn cael ei gydgysylltu ar draws ein holl bortffolios. Bydd integreiddio ar lefel ddyfnach ac ehangach yn ein helpu i sicrhau gwell gwerth am arian a gwell canlyniadau.

 

18.Yn benodol rwyf yn cydweithio'n agos â'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr agenda gwrthdlodi o dan y rhaglen Cymunedau'n Gyntaf. Rwyf yn edrych hefyd ar y cysylltiadau rhwng fy mhortffolio i a'r Ardaloedd Menter newydd a'r gwaith y mae'r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn ei wneud  ar Ddinas-ranbarthau.

 

19.Byddaf yn canolbwyntio'n benodol hefyd ar ddatblygu'r Rhaglen Ewropeaidd yng Nghymru ar gyfer 2014-2020. Rwyf yn awyddus i weld rhaglenni'r dyfodol yn canolbwyntio ar ymyriadau a fydd yn mynd i'r afael â methiannau yn y farchnad na fydd gweithgareddau datblygu economaidd a gwrthdlodi y brif ffrwd o reidrwydd yn mynd i'r afael â hwy.

 

20. Mae'n fwriad gennyf fynd ati yn gynnar yn 2013, ar ôl yr adolygiad, i amlinellu fy mlaenoriaethau ym maes adfywio.

 

Y Bil Treftadaeth

 

21. Rwyf wedi  ymrwymo i geisio cyflwyno Bil Treftadaeth yn ystod sesiwn 2014-15. Cadw sy'n arwain ar y Bil hwn ac mae wrthi'n cynnal ymarfer cwmpasu eang a fydd yn sail i bolisïau a strategaethau yn y dyfodol, gan gynnwys y Bil arfaethedig.

 

22. Y bwriad yw cynnal trafodaeth eang drwy gyfrwng gweithdai, seminarau, a chynhadledd gyhoeddus; a chynnal ymchwil, gan gysylltu â chynifer o unigolion a chyrff ag y bo modd yn y sector, yn ogystal â gwyntyllu'r materion yn y fforymau arferol sydd gan y sector.

 

23. Euthum ati yn ddiweddar i amlinellu'r blaenoriaethau sydd gennyf ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol Cymru (24 Ionawr):

http://wales.gov.uk/topics/cultureandsport/historic/cadw/priorities/?skip=1&lang=cy

 

24. Mae'r ddogfen yn amlinellu’r blaenoriaethau i Cadw, ac i’r gweithgareddau a’r sefydliadau y mae'n eu noddi ac yn eu hariannu, dros y pedair blynedd nesaf. Mae deg maes yn cael blaenoriaeth, gan gynnwys yr angen i sicrhau bod safleoedd treftadaeth yn fannau hygyrch i ymwelwyr â Chymru ac i bobl sy’n byw yma yng Nghymru ymweld â hwy; gwneud y gorau o gydweithio â phartneriaid a sicrhau’r partneriaethau gorau; datblygu cynulleidfaoedd newydd ac ehangach a chysylltu â phobl; hybu dysgu, datblygu sgiliau, a chreu swyddi; sicrhau bod asedau hanesyddol yn cael eu diogelu; ac yn bwysig iawn, cefnogi'r gwaith y mae'r trydydd sector yn y ei wneud ym maes yr amgylchedd hanesyddol

 

25. Rwyf am symbylu trafodaeth, syniadau a safbwyntiau newydd, i helpu Cadw i ddatblygu dulliau o weithredu sydd wir yn gweithio dros Gymru.  Bydd y gweithdai ymgynghori a gynhelir yn ystod chwe mias cyntaf eleni yn helpu i fireinio'r cynigion ar gyfer y Bil Treftadaeth a rhaglen waith Cadw, gyda golwg ar gyhoeddi fy Strategaeth ar gyfer yr Amgylchedd hanesyddol yn ystod hydref 2012.

 

Y Celfyddydau

 

26. Rwyf yn croesawu bwriad y Pwyllgor hwn i edrych ar gyfranogiad yn y celfyddydau, yn enwedig y posibiliadau o ran dod o hyd i ffynonellau newydd o gyllid yn yr hinsawdd anodd sydd ohoni.

 

27. Rwyf wedi nodi fy mlaenoriaethau ar gyfer y celfyddydau yn fy llythyr cylch gwaith blynyddol at Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC):

http://new.wales.gov.uk/topics/cultureandsport/publications/acremitletter/?skip=1&lang=cy

 

28. Yn benodol, rwyf am barhau i fwrw ymlaen â'r argymhellion yn Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant ar Hygyrchedd y Celfyddydau a Diwylliant, ac i barhau i fod yn rhan o'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf.

 

29. Rwyf yr un mor frwdfrydig ynglŷn â darparu profiadau o ansawdd uchel ym maes y celfyddydau i blant a phobl ifanc, felly rwyf yn hynod falch bod y Gweinidog Addysg a Sgiliau a minnau yn mynd ati gyda'n gilydd i gomisiynu adolygiad o'r gefnogaeth a roddir i'r celfyddydau mewn ysgolion.

 

30. Mae CCC wedi mynd ati eisoes i roi cynllun gweithredu ar waith er mwyn mynd i'r afael â thlodi plant - mae'r cynllun hwnnw'n ategu'r strategaeth 'Creawdwyr Ifainc' ar gyfer pobl ifanc a'r celfyddydau. Rydym yn siarad yn aml am y manteision a ddaw i ran unigolion wrth gymryd rhan yn y celfyddydau, ond gall y manteision hynny fod yn rhai ehangach o lawer, gan helpu gyda'r gwaith o adfywio'n cymunedau yn gymdeithasol ac yn ffisegol.

 

31. Rwyf hefyd am dynnu'ch sylw at ein rhaglen ar gyfer yr Olympiad Diwylliannol, pan fydd gweithgareddau'n cael eu cynnal ledled Cymru, nifer ohonynt wedi'u hanelu at ein pobl ifanc.

 

Diwylliant

 

32. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu swm o dros £12 miliwn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru a swm o dros £24 miliwn i Amgueddfa Cymru yn 2012/13. Mae'r ddau yn Gyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi ymrwymo hefyd i barhau i gynnig mynediad am ddim i'r Llyfrgell ac i'r saith safle sydd gan yr Amgueddfa.

 

33. Mae gwaith y naill sefydliad a'r llall yn cyfrannu at nifer o'r meysydd allweddol a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu, gan gynnwys twf a swyddi cynaliadwy, gwasanaethau cyhoeddus, addysg, a diwylliant a threftadaeth Cymru. 

 

34. Ym mis Tachwedd 2011, lansiwyd 'Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli'. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r cynlluniau sydd gennym i weithio mewn partneriaeth â'r sector llyfrgelloedd yng Nghymru. Mae llyfrgelloedd cyhoeddus ac addysgol, a llyfrgelloedd yn y gweithle, wrth galon eu cymunedau. Maent yn bodoli er mwyn ysbrydoli pobl a'u helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau. Mae'r strategaeth hon yn disgrifio sut y byddwn yn cynnal ac yn datblygu gwasanaethau newydd ac arloesol er mwyn diwallu anghenion pobl Cymru dros y 5 mlynedd nesaf.

http://new.wales.gov.uk/topics/cultureandsport/museumsarchiveslibraries/cymal/libraries/librariesinspire/?skip=1&lang=cy

35. Lansiwyd Strategaeth Amgueddfeydd Cymru ym mis Mehefin 2010.  Rwyf wedi cael fy nghalonogi gan y modd y mae amgueddfeydd ledled Cymru wedi ymroi i weithredu'r strategaeth ac, yn benodol, gan y gwaith sy'n cael ei wneud gan amgueddfeydd unigol i annog mwy o bobl i fanteisio ar eu cyfleusterau a'u gwasanaethau. Gan amrywio o ddatblygu mynedfeydd i'r anabl, i weithio gydag amrywiaeth eang o grwpiau i ddod â chasgliadau cenedlaethol at gynulleidfaoedd lleol, mae amgueddfeydd yn mynd ati'n egnïol i gyflwyno gwelliannau.

http://wales.gov.uk/topics/cultureandsport/museumsarchiveslibraries/cymal/museums/strategy/?skip=1&lang=cy

 

36. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol a'r Amgueddfa Genedlaethol wedi cyhoeddi strategaethau drafft ar Dlodi Plant, sy'n anelu at wella cyfranogiad plant ym maes y celfyddydau. Mae ymgynghoriad yn cael ei chynnal ynghylch y strategaethau hyn ar hyn o bryd. Rwyf yn hynod falch o weld bod ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol wedi ymroi i'r agenda hon, ac mae hynny'n adlewyrchu'r gwaith ehangach y maent yn ei wneud i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael gwell cyfle i fanteisio ar ddiwylliant.

 

Chwaraeon

 

37. Gan mai fi sy'n bennaf gyfrifol yn Llywodraeth Cymru am hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol, rwyf yn awyddus i sicrhau ein bod yn cael gwerth am y buddsoddiad yr ydym yn ei wneud, a hynny o ran gwell iechyd a lles, gwell cydlyniant cymunedol a chymdeithasol, a'r manteision economaidd sy'n gysylltiedig â hynny.

 

38. Cyhoeddwyd llythyr cylch gwaith Chwaraeon Cymru fis diwethaf:

http://cymru.gov.uk/topics/cultureandsport/publications/sportwalesremit/?skip=1&lang=cy

 

39. Mae'r buddsoddiad yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn rhoi cyfleoedd i bobl o bob oed a gallu gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn eu cymunedau. Mae Chwaraeon Cymru wrthi'n datblygu Strategaeth Chwaraeon Cymunedol a Strategaeth Tlodi Plant ar hyn o bryd, a'r bwriad yw targedu cymorth a buddsoddiad yn y dyfodol at y rheini sydd yn yr angen mwyaf. 

 

40. Rwyf hefyd yn trafod gyda'r awdurdodau lleol, Chwaraeon Cymru, y Lleng Brydeinig Frenhinol a rhanddeiliaid eraill sut orau i ehangu'n cynllun Nofio am Ddim i gyn-filwyr ac i aelodau o'r Lluoedd Arfog yn ystod y cyfnodau pan nad ydynt ar ddyletswydd.

 

Y Compact Llywodraeth Leol

 

41. Yn olaf, rwyf yn benderfynol o oruchwylio rhaglen ddiwygio ar y cyd i wireddu'r ymrwymiadau yr wyf wedi'u gwneud yn y compact. Rwyf am sicrhau bod y gwasanaethau yr wyf yn gyfrifol amdanynt ar draws Cymru yn cael eu darparu'n fwy effeithiol drwy gydweithio a gweithio mewn partneriaeth. Ymhlith fy mlaenoriaethau y mae pennu amcanion ar y cyd ar gyfer datblygu gwasanaethau, strategaethau buddsoddi integredig, ffyrdd newydd o foderneiddio'r modd y mae gwasanaethau'n cael eu cyflenwi, a mentrau eraill megis gwerthuso ac ymchwil ar y cyd.

 

42. Mae'r trafodaethau a gynhaliwyd hyd yma wedi dangos bod Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn ymrwymedig i weithio gyda'i gilydd i sicrhau arbedion y gellir eu hailfuddsoddi yng ngwasanaethau'r rheng flaen ac mewn gwella gwasanaethau ledled Cymru.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Huw Lewis AC

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

 

Mawrth 2012